#
Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:
Rhif y ddeiseb: P-05-860 Teitl y ddeiseb: Dylid gwneud Gwersi Sgiliau Bywyd yn Orfodol ar y cwricwlwm Testun y ddeiseb: Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i sicrhau bod gwersi sgiliau bywyd yn orfodol ar y cwricwlwm mewn ysgolion uwchradd drwy Gymru ac y caiff y cynnwys ei adolygu bob blwyddyn gan fwrdd o bobl ifanc etholedig. Byddai cwricwlwm sgiliau bywyd yn cynnwys pynciau fel: cyllid, rhyw a chydberthynas, gwleidyddiaeth a sgiliau byw sylfaenol. Mae Erthygl 28 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant yn dweud bod gan blant yr hawl i addysg. Mae'r cwricwlwm cenedlaethol, fodd bynnag, yn methu â darparu'r sgiliau bywyd y mae eu hangen arnom. |
Y cwricwlwm presennol - Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh)
Mae ABCh yn ofyniad cwricwlwm statudol ac mae'n rhan o'r cwricwlwm sylfaenol i'r holl ddisgyblion cofrestredig sy'n oedran ysgol gorfodol mewn ysgolion a gynhelir. Penaethiaid a'u llywodraethwyr sy'n gwneud penderfyniadau ar gynnwys a model cyflwyno rhaglen ABCh ysgol, gan weithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid lleol eraill. Mae ysgolion yn defnyddio'r fframwaith ABCh anstatudol (2008) i adolygu a datblygu eu rhaglenni ABCh. Dylai athrawon, penaethiaid a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, colegau a darparwyr addysg eraill seilio eu darpariaeth addysg bersonol a chymdeithasol ar y ddogfen hon.
Mae'r fframwaith yn nodi nodau ABCh:
§ datblygu hunan-dyb y dysgwyr a'u hymdeimlad o gyfrifoldeb personol
§ hybu hunan-barch, parch at eraill a dathlu amrywiaeth
§ galluogi dysgwyr i fyw bywydau diogel ac iach
§ paratoi'r dysgwyr ar gyfer y dewisiadau a'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig â dysgu gydol oes
§ galluogi'r dysgwyr i gyfranogi yn eu hysgolion a'u cymunedau fel dinasyddion gweithgar a chyfrifol yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang
§ meithrin agweddau ac ymddygiad cadarnhaol tuag at egwyddorion datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang
§ paratoi’r dysgwyr ar gyfer y sialensau, y dewisiadau a'r cyfrifoldebau sy'n gysylltiedig â gwaith a bywyd oedolyn.
Yn ei llythyr at y Pwyllgor, mae'r Gweinidog Addysg yn dweud y gallai nifer o feysydd y mae'r deisebydd yn sôn amdanynt, megis addysg ariannol a gwleidyddiaeth, gael eu haddysgu drwy ABCh.
Mewn perthynas ag addysg rhyw a chydberthynas, o dan ddarpariaethau Deddf Addysg 2002 mae'n ofynnol i'r holl ysgolion uwchradd a gynhelir gynnwys, fel rhan o gwricwlwm sylfaenol yr ysgol, addysg rhyw i ddisgyblion cofrestredig.
Nid yw'n ofynnol i ysgolion cynradd ddarparu addysg rhyw fel rhan o'r cwricwlwm sylfaenol, er y cânt wneud hynny yn ôl eu disgresiwn. Mae gan rieni'r hawl i dynnu eu plant yn ôl o unrhyw elfen o addysg rhyw nad yw'n rhan o'r cwricwlwm cenedlaethol.
Adolygiad yr Athro Donaldson o'r Cwricwlwm Cenedlaethol
Ym mis Mawrth 2014, cyhoeddodd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd, y byddai'r Athro Graham Donaldson yn cynnal adolygiad o'r cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru. Yn ei adroddiad ar y cwricwlwm, sef Dyfodol Llwyddiannus (Chwefror 2015), daeth yr Athro Donaldson i'r casgliad a ganlyn:
Gyda’i gilydd, nid yw’r cwricwlwm cenedlaethol a’r trefniadau asesu presennol yn cwrdd bellach ag anghenion plant a phobl ifanc Cymru. Mae’r ddadl o blaid newid sylfaenol yn un rymus. [Fy mhwyslais i]
Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu'r pedwar diben canlynol o'r cwricwlwm newydd yn ôl argymhellion yr Athro Donaldson. Y rhain yw y bydd yr holl blant a phobl ifanc sy'n cwblhau eu haddysg:
§ yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes.
§ yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith.
§ yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd.
§ yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywydau gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Y bwriad yw y bydd y cwricwlwm newydd â mwy o bwyslais ar roi i bobl ifanc y sgiliau angenrheidiol ar gyfer bywyd.
Awgrymodd yr Athro Donaldson y dylid trefnu'r cwricwlwm ar sail chwe Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh). Y chwe maes, fel y'u nodir gan Lywodraeth Cymru yn Cwricwlwm i Gymru: Cwricwlwm am Oes yw:
§ Celfyddydau mynegiannol
§ Iechyd a lles
§ Dyniaethau
§ Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
§ Mathemateg a rhifedd
§ Gwyddoniaeth a thechnoleg.
Cyn ei gyflwyno'n statudol, bydd y cwricwlwm newydd ar gael i ysgolion roi adborth, ei brofi a'i fireinio o fis Ebrill 2019, cyn cyhoeddi fersiwn derfynol i'r ysgolion ei ddefnyddio o fis Ionawr 2020.
Mewn ymateb i adroddiad y Panel Arbenigol Addysg Rhyw a Chydberthynas, sef Llywio dyfodol y cwricwlwm addysg rhyw a chydberthynas yng Nghymru (Saesneg yn unig) (Rhagfyr 2017), mae'r Gweinidog Addysg wedi cadarnhau y bydd addysg chydberthynas a rhywioldeb yn rhan o'r cwricwlwm newydd.
Deiseb yn y Pedwerydd Cynulliad
Ym mis Mehefin 2015, trafododd Pwyllgor Deisebau'r Pedwerydd Cynulliad ddeiseb yn galw am addysg rhyw a chydberthynas statudol i bob ysgol a sefydliad addysgol yng Nghymru (P-04-636). Roedd prif ffocws y ddeiseb yn ymwneud â darparu addysg sy'n ymwneud â materion pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thraws. Bryd hynny, dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd, wrth y Pwyllgor fod y cwricwlwm presennol yn hyblyg i alluogi addysgu'r materion hyn ac y byddai'r cwricwlwm newydd, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn galluogi gwaith ymgysylltu ystyrlon ag ysgolion a phartneriaid eraill. Daeth y ddeiseb i ben ym mis Medi 2015.
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |